Wicidestun:Y Sgriptoriwm

Oddi ar Wicidestun

Croeso i'r Sgriptoriwm - y lle i chi drafod sut mae pethau'n gweithio yma, polisïau, a phroblemau technegol a gofyn cwestiynau Gymraeg neu Saesneg.

Mae'r Sgriptoriwm Saesneg yn y fan hon.

I ychwanegu cwestiwn, cliciwch yma i ddechrau pennawd newydd, a theipiwch eich neges. Cofiwch lofnodi'r neges drwy ychwanegu pedair sgwigl (tilde) (~~~~) ar y diwedd.

Creu biwrocrat ar cy-wicidestun[golygu]

Carwn gynnig fod @AlwynapHuw: - Defnyddiwr:AlwynapHuw yn cael ei wneud yn Fiwrocrat ar y wici yma, fel y gall, yn ei dro enwebu rhagor o Weinyddwyr. I would like to nominate AlwynApHuw as a Beurocrat on this wiki. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:14, 19 Gorffennaf 2021 (UTC)[ateb]

Wedi gwneud cais ar Meta. Llywelyn2000 (sgwrs) 05
56, 4 Awst 2021 (UTC)

Gan fod y wici yma'n rhy fach mae nhw wedi gwrthod y cais. Angen gwneud Alwyn yn Weinyddwr felly!

Mae'n rhaid mynd drwy'r broses eto felly! [Hurt bost!] Unwaith eto...

Carwn gynnig fod @AlwynapHuw: - Defnyddiwr:AlwynapHuw yn cael ei wneud yn Weinyddwr ar y wici yma.

I would like to nominate AlwynApHuw as an Admin on this wiki. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:00, 7 Awst 2021 (UTC)[ateb]

Pwy di'r "Nhw" sydd wedi gwrthod y cais? Y broblem mwyaf rwyf wedi cael ar y safle yw diffyg rheolaeth gan ein cymuned ni! Sut mae ysbrydoli pobl i fod yn rhan o'r gwaith heb ein bod yn ei berchen? Ydy'r pobl sydd yn honni "fod y wici yma'n rhy fach" am gyfrannu iddi i'w gwneud yn fwy? Nac ydynt - Naw wfft iddynt felly! Rwyf wedi bod fel lladd nadroedd yn creu testunau yma dros y chwe mis diwethaf. Wedi esgusodi Wici365 er mwyn ehangu yr adran yma! I ddweud y gwir mae ymateb "nhw" mor ffiaidd, nid ydwyf am gyfrannu mwy, ond diweddu y pethau sydd gennyf ar y gweill. I'r diawl ar eu hawl hwy ar ein hiath ni! Caiff y llyfrau Cymraeg prin sydd gennyf ar fy silffoedd eu rhoi yn y bin lludw. Nid ydwyf am gyfrannu mwyach i safle "CYMRAEG" honedig sydd heb barch i'n hiath AlwynapHuw (sgwrs) 03:13, 8 Awst 2021 (UTC)[ateb]

Alwyn - does na ddim bwriad ganddyn nhw i fod yn ddibarch at y Gymraeg, hyd y gwn i. Mae eu penderfyniad wedi'i seilio ar hwn, ac mae angen newid y rheolau hyn fel bod pob wici yn medru penodi eu hunain, yn fy marn i. Mae popeth yn frwydr i iethoedd dan fygythiad, yn dydy, ac mae'n blino rhywun, ond paid a chymryd hyn yn bersonol - gem ydy o, yn fancw, Camlan lled braich. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:12, 8 Awst 2021 (UTC)[ateb]

3,500+ O olygiadau: Wedi creu —

  • Telynegion Maes a Mor
  • Tro yn Llydaw
  • Cartrefi Cymru
  • Hanes Cymru O M Edwards Cyf I
  • Hanes Cymru O M Edwards Cyf II
  • 275 o hwiangerddi
  • 35 o gerddi Mynyddog
  • 8 o gerddi Hedd Wyn
  • Clych Adgof OME
  • Cymru Fu
  • 145 o Emynau
  • Enwogion Sir Aberteifi
  • Enwogion Ceredigion
  • Rhan o waith mewn Cernyweg Canol (Add. Ch. 19491)

A chyfraniadau dirifedi eraill, rwyf yn teimlo bod "na dim digon da " yn sarhad bersonol yn fy erbyn gan bobl sydd wedi cyfrannu fflewj o ddim i'r safle yma, yn beirniadu fy nghyfraniad i, fel "dim yn ddigonol".

Rwyf wedi sganio dros 20 o lyfrau o fy llyfrgell bersonol ac wedi lawrlwytho dros 100 o safleoedd Internet Archive a Google, gyda'r bwriad o'u gosod yma. Gan hynny, ydwyf, rwyf yn teimlo loes o'u hymateb dan-din, trahaus ac imperialaidd AlwynapHuw (sgwrs) 05:28, 9 Awst 2021 (UTC)[ateb]

Mi rydan ni gyd yn cytuno efo to Alwyn - 100%. A mi rydan ni i gyd yn gwerthfawrogi'r holl waith caled rwyt ti'n ei wneud dros y Gymraeg. Ges i fwy na llond bol rhyw flwyddyn yn ol, pan es ati i newid pethau gwleidyddol ar wici saesneg, a'r ffycars bach yn dadwneud fy ngwaith yn syth. Mi fyddai'n meddwl llawer amdanat, ers i mi ddarllen iti golli dy wraig ychydig yn ol. Mi fydda inna'n cael dyddia'r ci du, weithiau, ond dydy hynny ddi help i ti. John Jones (sgwrs) 16:34, 9 Awst 2021 (UTC)[ateb]

Wedi bod yn trosglwyddo peth o waith Eifion Wyn ac yn cydymdeimlo a fo am golli "Mem", hyd ddagrau am fy ngholled cyffelyb. Cyn sylweddoli mae cariad "llen" ydoedd hi, a bod y bardd wedi ei lladd er mwyn priodi dynes go iawn ychydig cyn i'r llyfr cael ei gyhoeddi!AlwynapHuw (sgwrs) 03:12, 10 Awst 2021 (UTC)[ateb]

  •  Cwblhawyd(3 Mawrth 2021)
- a llongyfs mawr, Alwyn!
Bydd angen i ti ail-geisio ar y ddolen yma mewn 6 mis. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:16, 3 Medi 2021 (UTC)[ateb]

Llywelyn2000 Mae hyn yn warthus, yr unig fodd i Gymro Cymraeg cael elfen o reolaeth dros safle Cymraeg yw trwy ganiatâd American Gwrth Gymraeg! Os nad yw pob elfen o deulu Wicipedia yn eiddo i Gymry, does dim pwynt i'w fodolaeth. Mae'r ffaith mae'r unig "reolaeth" o'r safle yn dod o Saeson sydd yn araf osod y Beibl Cysegr Lan dros deng mlynedd (jobyn 5 mis i fi), yn hurt! Rwyf wedi cyfrannu llawer i'r safle ac yn teimlo hawl i allu ei weinyddu. Fy ngobaith oedd dal ati efo #Wicici 365 ac ategu #testun 52. Rwyf bellach wedi cael llond bol o gyfranu, er bod yn berchen llyfrgell helaeth. Heb rheolaeth Cymreig does dim reswm i Gymro gyfrannu! AlwynapHuw (sgwrs) 02:29, 8 Medi 2021 (UTC)[ateb]

Testunau cyfansawdd[golygu]

Mae Wicidestun Ffrangeg, yn cyhoeddi nifer o'i lyfrau dwywaith. Unwaith yn y ffordd draddodiadol efo tudalen trawsgrifio ar gyfer pob pennod / cerdd / erthygl etc ac wedyn eilwaith efo'r llyfr cyfan wedi ei drawsgrifio ar un tudalen. Eu rheswm dros wneud hyn yw er mwyn galluogi chwiliad o fewn llyfr yn fwy hylaw. Er enghraifft os ydwyf yn cofio bod cerdd am "bronfraith" yn Nhelynegion Maes a Môr, heb gofio teitl y gerdd, gallwn fynd at y testun cyfansawdd un tudalen a chwilio am y gair bronfraith trwy ddefnyddio Ctrl/F i gael hyd i'r gerdd yn haws na defnyddio'r chwiliad o bopeth sydd ar safle Wicidestun. Rwyf wedi gwneud arbrawf o'r ymarfer Ffrangeg ar Wicidestun Cymraeg efo testunau cyfansawdd o bedwar llyfr [Categori-Testunau cyfansawdd] . Hoffwn wybod barn eraill am werth y fath ymarfer cyn bwrw ymlaen i wneud tudalennau tebyg ar gyfer gweddill y llyfrau rwyf wedi trawsgrifio. AlwynapHuw (sgwrs) 17:41, 9 Chwefror 2022 (UTC)[ateb]

Cytuno'n llwyr! Mae dewis o ddwy drefn / dau fformat yn llawer gwell! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:00, 10 Chwefror 2022 (UTC)[ateb]

Canllawiau i olygydd[golygu]

@AlwynapHuw: Oes na ganllawiau sut i olygu / prawfddarllen? Dw i ddim yn cofio ydy hi'n iawn uno dwy ran o air drwy ddileu'r heiffen (oherwydd diwedd llinell) neu ei adael fel ag y mae?

rhedeg, ac nid
rhe-
deg

Llywelyn2000 (sgwrs) 15:35, 10 Chwefror 2022 (UTC)[ateb]

Llywelyn2000 Yn ôl y rheolau Saesneg, dylid ddileu'r heiffen a chreu gair cyfan. Os yw heiffen yn croesi tudalen dylid rhoi y gair cyfan ar un dudalen yn hytrach na thori gair dros dwy dudalen AlwynapHuw (sgwrs) 06:23, 27 Chwefror 2022 (UTC)[ateb]
Diolch Alwyn! Mae hynny'n synhwyrol! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:33, 1 Mawrth 2022 (UTC)[ateb]

Oll synnwyr pen Kembero ygyd[golygu]

@Llywelyn2000: Wedi ceisio uwchlwytho'r llyfr o'r safle wnes ti awgrymu. Mae'n caniatâu lawrlwytho i gyfrifiadur personol ond ddim i'w trosglwyddo i safwe trydydd parti! Rwyf wedi rhoi sganiau amgen, efo problemau, yma; tudalennau ar goll a thudalennau wedi eu copïo'n ddeublyg. Mae copi o lyfr Gwenogfryn yn llyfrgell y Coleg Normal, gallwn mynd yno i sganio y tudalennau coll, efo ffôn neu sganiwr bach a gwirio y PDF. Ond bydd y llyfr sydd wedi ei drawsysgrifio allan o sinc, a bydd angen hawliau gweinyddol i'w adrefnu / dileu a'i osod o'r newydd ac ati. Sorri am fod yn boen yn din am yr un hen gwyn AlwynapHuw (sgwrs) 02:07, 2 Ebrill 2022 (UTC)[ateb]

Cret cael y testun, fel hyn! Ti awydd gofyn i Lyfrgellydd y Normal sganio'r tudalenau coll i ti? O ran hawlfraint: os yw'n agored, yna ni all perchennog y gwaith ddim mynd yn groes i'r hyn sydd ar drwydded Comin Creu. Yn yr un modd, os yw'r llyfr dors 94 mlynedd yna, mae allan o hawlfrain, a dyna ni. Waeth be ddiawl mae'r person sydd a'r llyfr yn ei feddiant yn ei ddweud. Dw i di gwneud cais i'r BL am sgans o'r llyfr gwreiddiol, a does dim o'i le mewn cael sawl cyhoeddiad / fersiwn wahanol o'r un llyfr ar WD. Ti'n gwneud diawch o job da Alwyn: rhagor gen i mewn chwinc. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:46, 4 Ebrill 2022 (UTC)[ateb]

Cael cyfranwyr[golygu]

@Llywelyn2000: Ffordd amgen o gael gweinyddwyr arall byddai cael mwy o aelodau gweithgar.

Y 30 diwrnod diwethaf bu'r uchaf yn rhif y defnyddwyr gweithgar ers i mi fod yn weithgar ar y safle sef - 7! Fel arfer mae'n ddau neu dri, gan hynny rwy'n ddeall, yn rhannol, pam nad ydynt yn fodlon cael weinyddwr arall (er, yn dal i gredu, mae imperialaeth sy'n gwrthod ystyried anghenion ieithoedd llai yw'r brif broblem)

Mae dwy broblem sy'n rhwystro Cymry rhag cyfrannu i Wicidestun.

1) Mae'r tudalennau help yn mynd i'r safle Saesneg sy'n uffernol o gymhleth, yn delio efo problemau sy'n deillio o uwch lwytho a gwirio miloedd o lyfrau, yn hytrach na'r gwybodaeth elfennol sydd angen i gyfrannwr o'r newydd cyfrannu un!

Mi fûm yn chwarae efo Wicidestun am bron i bum mlynedd cyn gweithio allan sut i wneud iawn ddefnydd ohono. Sydd yn hurt. Heb hawl weinyddwr bydd dim hawl gennyf newid cyfeiriad y tudalen "help" ond gallwn greu "llyfr" sy'n trafod y basics o fformatio tudalennau, a ballu, a'i osod fel llyfr parhaus ym mrig y "llyfrau diweddar"

2) Mae mynd at y tudalennau "indecs" yn cyflwyno chi i ddigon o gig i grogi ci. Ti'n edrych ar y gwaith ac yn meddwl "ffwc na"! Dim i fi!

Mae nifer o'r safleoedd Wicidestun eraill yn dod dros hyn trwy greu prosiectau "Llyfr yr Wythnos" / "Llyfr y mis" ac ati. Yn syml does dim ymrwymiad at lyfr cyfan. Mae llyfr cydweithredol yn cael ei awgrymu yn y Sgriptoriwm (ac yn Y Caffi?) a phawb yn mynd ati megis dipyn.

- Rwy'n dweud cymeraf dudalennau 1-10,
-ti'n dweud 11-20,
-Mari'n dweud 21-30
-&c. AlwynapHuw (sgwrs) 03:20, 4 Ebrill 2022 (UTC)[ateb]
Cytuno - syniadau gwerth chweil! Mi faswn i jyst yn mynd ymlaen a newid yr Hafan, Alwyn; dim angen consenswn yn fy man i. Creu fideos hydfforddi? Llywelyn2000 (sgwrs) 13:51, 4 Ebrill 2022 (UTC)[ateb]

Cornel Saesneg[golygu]

Dw i'n cynnig cael cornel i'r sbwriel canolog Saesneg, sy'n britho'r hen Sgriptoriwm, fel mai dim ond yr heniaith fydd yn cael ei defnyddio yma o hyn ymlaen. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:49, 4 Ebrill 2022 (UTC)[ateb]

Cytuno'n llwyr AlwynapHuw (sgwrs) 15:36, 25 Ebrill 2022 (UTC)[ateb]
Wedi cwbwlhau Wicidestun:Y Sgriptoriwm Saesneg. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:42, 27 Ebrill 2022 (UTC)[ateb]

Hidlydd camddefnydd[golygu]

Dau Weinyddwr sydd ar y wici yma:

  1. Mae na fot o'r enw Defnyddiwr:Hidlydd camddefnydd a
  2. Defnyddiwr:Mahagaja sydd wedi gwneud 13 golygiad yn y 6 mis diwethaf] ond yn eitha prysur cyn hynny.

Tydy'r bot ddim wedi gwneud unrhyw olygiad o be wela i. Dau Weinyddwr gan y Rheolau Sefydlog ar Meta. Cynigiaf, felly, ein bod yn gofyn i statws y bot gael ei dynnu. Dydy'r bot ddim chwaith yn nodi ei bwrpas ayb ar ei Dudalen Defnyddiwr, ac mae hyn yn groes i'r rheolau. Does dim son pwy sy'n ei reoli! Mae angen consensws i ni ddileu ei hawliau. Diolch!

Cytuno:

  1. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:10, 4 Ebrill 2022 (UTC)[ateb]
  2. Mahāgaja · sgwrs 14:23, 4 Ebrill 2022 (UTC)[ateb]
  3. AlwynapHuw (sgwrs) 16:07, 5 Ebrill 2022 (UTC)[ateb]
  4. Craigysgafn --Craigysgafn (sgwrs) 20:04, 6 Ebrill 2022 (UTC)[ateb]
  5. -Brin Rees (sgwrs) 00:43, 7 Ebrill 2022 (UTC)[ateb]
Diolch bawb! Dw i wedi gwneud cais yn fama. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:13, 7 Ebrill 2022 (UTC)[ateb]
Er gwybodaeth - mae'r hen gais am statws Gwenyddwr i Alwyn yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:27, 8 Ebrill 2022 (UTC)[ateb]
Hyd y gwelaf dydy Defnyddiwr:Hidlydd camddefnydd dim yn fodoli ac erioed wedi bodoli, ar unrhyw gyfrif Wici trwy'r byd, mae'n edrych fel cyfieithiad o enw'r bot "Abuse Filter" (sydd a hawl yma heb hawliau gweinyddol) a chafodd hawliau gweinyddol gan sylfaenydd y safwe, ar gam. Mae'n bosib ei fod yn Weinyddwr, trwy gam, ar Wiciadur, Wiicidyfynu ac ati hefyd! (sgwrs) 03:50, 9 Ebrill 2022 (UTC)[ateb]
Dyna pam wnes i ei enwebu Alwyn ("Tydy'r bot ddim wedi gwneud unrhyw olygiad o be wela i"). Smonach gan Meta! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:02, 10 Ebrill 2022 (UTC)[ateb]

Creu Gweinyddwr arall ar cy-wicidestun; cais 2[golygu]

Cefnidir: cais ar Meta.

Carwn gynnig Defnyddiwr:AlwynapHuw yn Weinyddwr ar yr wici yma (Wicidestun), gyda @Mahagaja:. Rhowch eich pleidlais neu sylwadau os gwelwch yn dda. Bydd y cyfle i gefnogi neu wrthod ar agor am gyfnod o 5 diwrnod. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:31, 27 Ebrill 2022 (UTC)[ateb]

Cytuno

...

Anghytuno

...

Derbyn yr enwebiad,

Mae'n debyg nad ydwyf yn cael pleidleisio i fi fy hun. Sy'n drefn pleidleisio od. Mae llun o bob darpar arweinydd gwlad yn pleidleisio iddo ef / hi ei hunan yn rhan o eiconograffi pob etholiad.

Hoffwn nodi fy mod yn dderbyn yr enwebiad.

Rwyf ar hyn o bryd yn sefyll etholiad i geisio cael fy ail ethol i Gyngor Cymuned Llansanffraid Glan Conwy, rwy'n cael pleidleisio i fi fy hun yn yr etholiad yna; yn cael canfasio a thaflennu yn agored. Pam fod drefn y Wici yn llai democrataidd na threfn cyngor bach y Llan? AlwynapHuw (sgwrs) 08:51, 29 Ebrill 2022 (UTC)[ateb]

Cwbwlhawyd

Gweler: Meta. Diolch i bawb!

  Llywelyn2000 (sgwrs) 08:19, 12 Mai 2022 (UTC)[ateb]


O Lygad y Ffynnon, JO Jones a Tro yn yr Eidal OM Edwards[golygu]

Gair byr i ddweud mod i wedi digideiddio'r llyfrau yma ac yn gobeithio eu ryddhau'n fuan. Rwy'n newydd i'r maes wicipedia ac i ddigideiddio felly, mae 'na ffordd i fynd! :-) Defnyddiwr:Rhoslyn2 (15:37, 3 Mai 2022) (Arwyddwyd ar ei ran gan Llywelyn2000 (sgwrs) 13:47, 4 Mai 2022 (UTC) )[ateb]

Gwych iawn gyfaill! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:47, 4 Mai 2022 (UTC)[ateb]

Bookreader[golygu]

Rwyf wedi gosod nodwedd newydd ar Wicidestun, rwy'n gobeithio bydd yn ategu at werth y safle. Ar ddiwedd llinell teitl pob tudalen indecs mae 'na icon bach bellach, sy'n edrych fel dau dudalen o lyfr.

O roi clec ar yr icon bydd modd mynd i safle Wikimedia Bookreader a darllen unrhyw lyfr sydd wedi uwchlwytho yma, boed wedi ei drawsysgrifio neu beidio, fel rhith lyfr. Mantais hyn yw ei fod yn golygu bod gwerth inni rŵan gosod llyfrau sydd yn rhy fawr i obeithio y caent eu trawsysgrifio am flynyddoedd maith, megis 10 cyfrol (9,000 tudalen, 11 miliwn gair) Y Gwyddoniadur Cymreig Dr John Parry a Thomas Gee. Rwyf wedi creu tudalen sy'n cynnwys rhestr o'r holl dudalennau Indecs Rhestr o dudalennau Indecs ac rwyf wrthi'n rhoi categorïau testun ac awdur ar yr holl dudalennau indecs hefyd, fel bydd modd eu canfod trwy Categori:Nofelau Categori:Owen Morgan Edwards ac ati. AlwynapHuw (sgwrs) 15:26, 7 Hydref 2022 (UTC)[ateb]

Archif cylchgrawn Y Casglwr[golygu]

Sylwaf bod cynnwys holl wefan Y Casglwr ar drwydded CY-BY-3.0, gan gynnwys archif o hen erthyglau o 1977 lle maen't wedi dechrau eu digideiddio gan dddefnyddio OCR. Mae erthyglau 1977-1980 (a falle mwy) ar ffurff HTML sydd ond angen mân dwtio acenion. Gan gymryd bod y drwydded hon yn dderbyniol ar gyfer ailgynhyrchu o edrych ar ganllawiau Wikisource, dwi'n awyddus dechrau gyda'r gwaith o'u trosi yma, yn arbennig gan bod yr erthyglau, oherwydd diben Cymdeithas Bob Owen, yn frith o gyfeiriadau at hen lyfrau, rhai mae'n ddigon posib sydd eisoes ar Wicidestun, gan gynnig cyfle i gyfeirio at gynnwys sydd yma'n barod. Gwerthfawrogaf unrhyw sylwadau neu dips cyn imi ddechrau arni, ac mae'n siwr bydd gennyf gwestiynau wrth fynd ati gan mod i'n ddibrofiad yma. Rhyswynne (sgwrs) 11:37, 12 Mehefin 2023 (UTC)[ateb]

Awduron rhydd o hawlfraint 2024[golygu]

Yn ôl y ddeddf, mae cyhoeddiad yn dod yn rhydd o hawlfraint ar y 1af o Ionawr 70 mlynedd ar ôl farwolaeth yr awdur. Felly bydd llyfrau ac ati gan awduron a fu farw yn ystod 1953 yn symud i'r parth cyhoeddus ac yn rhydd i'w cyhoeddi ar Wicidestun. Ymysg yr awduron Cymraeg a fu farw ym 1953 mae :-

  • Winnie Parry. (mae Craigysgafn wedi trawsysgrifio un o'i llyfrau hi, Cerrig y Rhyd, yn barod a bydd yn cael ei gyhoeddi o fewn munudau i glychau 'r flwyddyn Newydd ganu yn Seland Newydd.
  • Ellen Evans
  • Bu farw Thomas Lewis a'i frawd Elfed o fewn ychydig misoedd i'w gilydd ym 1953.
  • T Mardy Rees
  • Moelona. Rwyf wedi paratoi chwech o'i nofelau hi i'w cyhoeddi yn gynnar yn y flwyddyn Newydd-Beryl, Breuddwydion Myfanwy, Bugail y Bryn, Ffynonloyw, Plant y goedwig, a'r Lleian Lwyd ond rwy'n methu yn fy myw cael gafael o gopi o'i nofel enwocaf Teulu Bach Nantoer a gyhoeddwyd cyn 1953
  • John Glyn Davies (Oes gan unrhyw un copïau cynnar o'i lyfrau caneuon Cerddi Huw Puw 1923, Cerddi Robin Goch 1935 a Cherddi Portinllaen 1936)?

Ac ymysg yr awduron Eingl-gymreig Dylan Thomas ac Idris Davies.

Os oes gynnoch chi lyfrau ar eich silff gan rai o'r awduron hyn (neu eraill a bu farw cyn Rhagfyr 31 1953) a modd i'w gopïo fel ffeiliau PDF efo printer 3 yn 1 neu app ffôn uwch lwythwch nhw ar Gomin er mwyn eu rhannu a'r byd. AlwynapHuw (sgwrs) 15:21, 6 Rhagfyr 2023 (UTC)[ateb]