Mae'r nodiadau hyn yn cyfeirio at Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 (dsc 2)
a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 16 Mawrth 2021
Adran 11 – Pŵer i ohirio is-etholiadau awdurdodau lleol
30.
Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n gohirio is-etholiadau awdurdodau lleol yng Nghymru y tu hwnt i’r cyfnod sy’n ofynnol gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 pan fyddai’n ofynnol i’r pôl gael ei gynnal fel arall rhwng 6 Mai 2021 a 5 Tachwedd 2021. Mae gan adran 67 o Ddeddf y Coronafeirws 2020 bŵer tebyg ond nid yw’n galluogi’r rheoliadau i bennu dyddiad neu gyfnod ar gyfer yr is-etholiad ar ôl 6 Mai 2021. Ni chaiff rheoliadau a wneir o dan yr adran hon ohirio’r is-etholiad i ddyddiad sy’n hwyrach na 5 Tachwedd 2021.
31.
Mae adran 17 yn gwneud darpariaeth gyfatebol i adran 68 o Ddeddf y Coronafeirws 2020 (pŵer i wneud darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol etc. ar gyfer rhoi effaith lawn i ddarpariaeth a wneir o dan ddarpariaeth o’r Ddeddf hon). Mae adran 17(2)(a) o’r Ddeddf yn galluogi i ddarpariaeth ôl-weithredol gael ei gwneud mewn perthynas ag isetholiadau llywodraeth leol, sef dull gweithredu sy’n gyson â’r hyn a geir yn adran 68(3) o Ddeddf y Coronafeirws 2020 sy’n galluogi i is etholiadau llywodraeth leol gael eu gohirio i ddyddiad hyd at 6 Mai 2021.
32.
Mae rheoliadau o dan yr adran hon sy’n diwygio, yn addasu neu’n diddymu darpariaeth mewn deddfwriaeth sylfaenol yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ yn y Senedd, sy’n golygu bod rhaid i Senedd Cymru eu cymeradwyo cyn diwedd cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl iddynt gael eu gwneud neu byddant yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y cyfnod hwnnw. Ym mhob achos arall, mae’r weithdrefn negyddol yn y Senedd yn gymwys i reoliadau a wneir o dan yr adran hon. Mae’r weithdrefn negyddol yn golygu bod rhaid i’r rheoliadau gael eu gosod gerbron y Senedd ar ôl iddynt gael eu gwneud ac y byddant yn parhau mewn effaith oni bai bod y Senedd yn gwrthwynebu’r rheoliadau o fewn cyfnod o 40 niwrnod ar ôl iddynt gael eu gosod.
Adran 12 – Gorchmynion a rheolau ynglŷn â chynnal etholiadau yn 2021
33.
Pan na fo gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 13(1) o Ddeddf 2006 ynghylch cynnal etholiadau’r Senedd yn cynnwys darpariaeth ond ynghylch etholiad 2021 neu ond ynghylch is-etholiadau’r Senedd a gynhelir cyn 6 Tachwedd 2021, mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ yn y Senedd fod yn gymwys i wneud y gorchymyn yn lle’r weithdrefn gadarnhaol a fyddai’n gymwys fel arall. Mae’r weithdrefn gadarnhaol yn ei gwneud yn ofynnol cymeradwyo drafft o orchymyn cyn iddo gael ei wneud. Mae’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ yn ei gwneud yn ofynnol i’r Senedd gymeradwyo’r gorchymyn ar ôl iddo gael ei wneud.
34.
Yn yr un modd, pan na fo rheolau o dan adran 36A o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (“Deddf 1983”) yn cynnwys darpariaeth ond ynghylch cynnal is-etholiad awdurdod lleol sydd i’w gynnal cyn 6 Tachwedd 2021, mae’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ yn gymwys i wneud y rheolau yn lle’r weithdrefn a fyddai’n gymwys fel arall.
35.
Daw adran 36A o Ddeddf 1983 i rym ar 20 Mawrth 2021 a byddai rheolau a wneir odani fel arall yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn rhinwedd adran 36A(10) o Ddeddf 1983.
5