Jump to content

Page:Explanatory Notes - Welsh Elections (Coronavirus) Act 2021 (ASC 2021-2 qp).pdf/12

From Wikisource
This page has been proofread, but needs to be validated.

Mae'r nodiadau hyn yn cyfeirio at Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 (dsc 2)
a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 16 Mawrth 2021

36.
Cyn i adran 36A o Ddeddf 1983 ddod i rym, gall Gweinidogion Cymru ddibynnu ar adran 36 o Ddeddf 1983 i wneud rheolau ynghylch cynnal etholiadau awdurdodau lleol. Mae’r weithdrefn negyddol yn gymwys i reolau a wneir o dan adran 36 o Ddeddf 1983 (gweler adran 36(7) o Ddeddf 1983).

Adran 13 – Effaith y Ddeddf ar y pŵer presennol i wneud darpariaeth ynghylch etholiadau

37.
Diben yr adran hon yw egluro nad yw’r ddarpariaeth a wneir yn y Ddeddf ynghylch etholiadau yn effeithio ar bwerau presennol Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth ynghylch cynnal etholiadau o dan adran 13 o Ddeddf 2006 ac adrannau 36 ac 36A o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
38.
Mae adran 13(1) o’r Ddeddf yn egluro nad yw adran 13(7) o Ddeddf 2006, sy’n ei gwneud yn ofynnol i orchmynion a wneir o dan adran 13 o Ddeddf 2006 fod yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol, yn gymwys i orchmynion o’r math a bennir yn adran 12 o’r Ddeddf. Mae’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ yn gymwys i orchmynion y mae adran 12 yn gymwys iddynt.
39.
Mae adran 13(2) yn egluro, pan fo rheolau o’r math a bennir yn adran 12 o’r Ddeddf wedi eu gwneud o dan adran 36A, nad yw adran 36A(10) o Ddeddf 1983 (gofyniad am weithdrefn gadarnhaol) yn gymwys a bod y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ yn gymwys yn rhinwedd adran 12(3) o’r Ddeddf.

Adran 14 – Addasu Gorchymyn 2007

40.
Mae adran 13 o Ddeddf 2006 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth drwy orchymyn ynghylch cynnal etholiadau’r Senedd ac mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (“Gorchymyn 2007”) yn orchymyn a wnaed o dan yr adran honno.
41.
Mae’r adran hon yn addasu darpariaethau penodol o Orchymyn 2007 at ddibenion etholiad 2021.
42.
Mae is-adran (3) yn addasu erthygl 84(2) o’r Gorchymyn Trefn Cynnal Etholiad a’r pwynt pan fydd person yn dod yn ymgeisydd yn yr etholiad. Mae hyn ynghlwm wrth ddiddymu’r Senedd ar hyn o bryd. Mae adran 3 o’r Ddeddf yn cwtogi cyfnod y diddymiad. Mae is-adran (4) yn datgysylltu’r adeg y daw person yn ymgeisydd o’r adeg y’i diddymwyd. Effaith yr addasiad i erthygl 84(2), at ddibenion Rhan 3 o Orchymyn 2007, yw bod person yn dod yn ymgeisydd 21 o ddiwrnodau cyn 6 Mai (wedi ei gyfrifo gan ddiystyru diwrnodau penodol gan gynnwys diwrnod sy’n ddydd Sadwrn neu’n ddydd Sul neu’n ŵyl banc). Dyma’r dyddiad y byddai’r Senedd wedi ei diddymu ar gyfer yr etholiad cyffredinol arferol ar 6 Mai pe na bai adran 3 o’r Ddeddf wedi gwneud darpariaeth i gwtogi cyfnod y diddymiad. Mae person yn aros yn ymgeisydd at ddibenion Rhan 3 o Orchymyn 2007 (oni chaiff ei ymddiswyddo neu ei ddad-ddewis, er enghraifft) hyd yn oed os caiff yr etholiad ei ohirio yn unol ag adran 6 (neu yn ôl y digwydd, adran 8) o’r Ddeddf hyd at ddyddiad sy’n hwyrach na 6 Mai 2021.

6