Mae'r nodiadau hyn yn cyfeirio at Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 (dsc 2)
a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 16 Mawrth 2021
43.
Mae is-adran (4) yn gwneud addasiad i baragraff 7 o Atodlen 1 i’r Gorchymyn Trefn Cynnal Etholiad i ganiatáu i geisiadau brys am bleidleisio drwy ddirprwy gael eu gwneud pan fo etholwr neu ddirprwy presennol yn canfod na ellir disgwyl yn rhesymol iddo bleidleisio yn bersonol oherwydd ei bod yn ofynnol iddo gydymffurfio â deddfiad sy’n ymwneud â’r coronafeirws neu ei fod yn dilyn canllawiau sy’n ymwneud â’r coronafeirws a ddyroddir gan Weinidogion Cymru. Ni fydd yn ofynnol tystio’n feddygol ar gyfer cais am bleidlais drwy ddirprwy ar frys o dan yr amgylchiadau hyn.
44.
Mae is-adran (5) yn addasu Atodlen 5 (rheolau etholiadau’r Senedd) i’r Gorchymyn Trefn Cynnal Etholiad i gyflwyno hyblygrwydd i’r broses ar gyfer cyflwyno papurau enwebu a chydsyniad ymgeiswyr i enwebu mewn ymateb i’r heriau a gyflwynir gan bandemig y coronafeirws. Mae cyflwyno papurau enwebu a chydsyniad i enwebiadau yn broses corfforol yn hytrach na phroses rithwir. Mae’r addasiad yn rhoi mwy o amser ym mhob diwrnod ar gyfer cyflwyno papurau enwebu (9.00am i 5.00pm yn hytrach na 10.00am i 4.00pm). Yn ogystal, gall person a enwebir gan ymgeisydd at y diben hwnnw gyflwyno papurau enwebu ar ran yr ymgeisydd drwy roi enw a chyfeiriad y person i’r swyddog canlyniadau yn ysgrifenedig neu’n electronig cyn neu ar yr adeg y cyflwynir y papur enwebu.
45.
Mae’r addasiad terfynol mewn perthynas â chydsyniad ymgeiswyr i enwebu. O dan y rheolau yn Atodlen 5 i’r Gorchymyn Trefn Cynnal Etholiad, nid oes ffurf ragnodedig ar gyfer cydsyniad i enwebu, ar yr amod ei fod yn ysgrifenedig, yn cael ei gyflwyno i’r Swyddog Canlyniadau yn yr amser penodedig ac wedi ei dystio gan dyst. Pan fo ymgeisydd dramor, gellir ei chyflwyno drwy ffacs neu ddulliau tebyg eraill – ac yn arbennig heb y gofyniad i dyst dystio. Ar gyfer etholiad 2021, mae’r Ddeddf yn addasu’r rheolau yn Atodlen 5 i alluogi ymgeiswyr i gyflwyno eu cydsyniad priodol i enwebu yn yr amser a bennir ar gyfer cyflwyno papurau enwebu naill ai’n ysgrifenedig yn y man i gyflwyno’r papurau hynny neu’n electronig i gyfeiriad electronig at y diben hwnnw. Nid yw’n ofynnol i dyst dystio i gydsyniad ymgeisydd i enwebu.
Adran 15 – Adolygiad: paratoadau ar gyfer cynnal y pôl
46.
Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal adolygiadau ar sut y mae paratoadau ar gyfer cynnal y pôl ar gyfer etholiad 2021 yn mynd rhagddynt. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron Senedd Cymru sy’n nodi a yw’n debygol y caiff yr etholiad ei ohirio yn seiliedig ar yr adolygiad hwnnw.
Adran 16 – Dehongli
47.
Mae’r adran hon yn darparu ystyr termau allweddol a ddefnyddir drwy gydol y Ddeddf.
7