Jump to content

Page:Explanatory Notes - Welsh Elections (Coronavirus) Act 2021 (ASC 2021-2 qp).pdf/16

From Wikisource
This page has been proofread, but needs to be validated.

Mae'r nodiadau hyn yn cyfeirio at Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 (dsc 2)
a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 16 Mawrth 2021

Adran 17 – Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol etc.

48.
Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i wneud unrhyw ddarpariaethau cysylltiedig, atodol, canlyniadol, trosiannol, darfodol neu arbed y maent yn ystyried eu bod yn briodol at ddibenion rhoi effaith lawn i’r Ddeddf neu mewn cysylltiad â rhoi effaith lawn iddi. Gall rheoliadau a wneir gan ddibynnu ar y pŵer addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad, gan gynnwys darpariaeth yn y Ddeddf ei hun. Mae’r pŵer yn galluogi i ddarpariaeth ôlweithredol gael ei gwneud mewn perthynas ag is-etholiadau llywodraeth leol. Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o’r fath yn ddarostyngedig i graffu gan y Senedd drwy’r weithdrefn penderfyniad negyddol ond pan fo rheoliadau o dan yr adran hon yn diwygio, yn addasu neu’n diddymu darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol, mae’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ yn gymwys.

Adran 18 – Dod i rym

49.
Mae’r adran hon yn darparu y daw’r Ddeddf i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Cydsyniad Brenhinol.

COFNOD Y TRAFODION YN SENEDD CYMRU

50.
Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy’r Senedd. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan y Senedd ar: https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=35328
Cyfnod Dyddiad
Cyflwynwyd 27 Ionawr 2021
Cyfnod 1 - Dadl 2 Chwefror 2021
Cyfnod 2 – Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau 9 Chwefror 2021
Cyfnod 3 – Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau 10 Chwefror 2021
Cyfnod 4 – Cymeradwywyd gan y Senedd 10 Chwefror 2021
Y Cydsyniad Brenhinol 16 Mawrth 2021

©ⓗ Hawlfraint y Goron 2021
Argraffwyd a chyhoeddwyd yn y Deyrnas Unedig gan The Stationery Office Limited o dan awdurdod ac arolygiaeth Jeff James, Rheolwr Gwasg Ei Mawrhydi ac Argraffydd Deddfau Seneddol y Frenhines.

8