Jump to content

Page:Explanatory Notes - Welsh Elections (Coronavirus) Act 2021 (ASC 2021-2 qp).pdf/2

From Wikisource
This page has been proofread, but needs to be validated.

Mae'r nodiadau hyn yn cyfeirio at Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 (dsc 2)
a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 16 Mawrth 2021

DEDDF ETHOLIADAU CYMRU (CORONAFEIRWS) 2021


NODIADAU ESBONIADOL

CYFLWYNIAD

1.
Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 (“y Ddeddt”) a basiwyd gan Senedd Cymru ar 10 Chwefror 2021 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 16 Mawrth 2021. Fe’u Luniwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo'r sawl sy'n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â'r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.

TROSOLWG O’R DDEDDF

2.
Mae’r Ddeddf yn darparu i fesurau sy’n ymwneud â'r coronafeirws (GARS-CoV-2) fod yn gymwys i etholiadau Senedd Cymru ac is-etholiadau Ilywodraeth Ileol Cymru y bwriedir iddynt ddigwydd yn 2021.
3.
Mae’r mesurau yn cynnwys —
  • pŵer i ohirio etholiad cyffredinol Senedd Cymru 2021 (y bwriedir iddo ddigwydd ar 6 Mai 2021) am hyd at 6 mis (adran 6);
  • pŵer i ddarparu ar gyfer diwrnodau pleidleisio ychwanegol ar gyfer yr etholiad hwnnw (adran 7);
  • pŵer i ohirio is-etholiadau Senedd Cymru y bwriedir iddynt gael eu cynnal ar ôl 6 Mai 2021 (adran 10);
  • pŵer i ohirio is-etholiadau llywodraeth leol Cymru y bwriedir iddynt gael eu cynnal ar ôl 6 Mai 2021 (adran 11).
4.
Nid yw'r pwerau a roddir gan y Ddeddf yn caniatáu i etholiad gael ei ohirio i ddyddiad ar ôl 5 Tachwedd 2021.
5.
Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ganllawiau gael eu dyroddi:
  • i aelodau Llywodraeth Cymru ynghylch arfer swyddogaethau yn y cyfnod cyn etholiad cyffredinol Senedd Cymru (adran 4), ac
  • ynghylch ymgyrchu etholiadol yn yr etholiadau a gwmpesir gan y Ddeddf (adran 9).
6.
Mae'r Ddeddf hefyd yn newid gweithdrefnau craffu Senedd Cymru sy'n gymwys i unrhyw orchmynion a rheolau a wneir gan Weinidogion Cymru sy'n cynnwys darpariaethau ar gynnal etholiadau nad ydynt ond yn gymwys i etholiadau Senedd Cymru ac is-etholiadau llywodraeth leol Cymru a gynhelir cyn 6 Tachwedd 2021 (adran 12).

1