Mae'r nodiadau hyn yn cyfeirio at Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 (dsc 2)
a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 16 Mawrth 2021
SYLWEBAETH AR YR ADRANNAU
Adran 1 – Etholiad 2021
7.
Mae’r adran hon yn diffinio’r term allweddol yn y Ddeddf, “etholiad 2021”, fel yr etholiad cyffredinol arferol i fod yn Aelod o’r Senedd y bwriedir i’r pôl ar ei gyfer gael ei gynnal yn 2021.
Adran 2 – Cymhwyso darpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru 2006
8.
Mae’r adran hon yn datgymhwyso neu’n cyfyngu ar gymhwysiad darpariaethau penodedig o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”) i etholiad 2021.
9.
Byddai is-adrannau (2)(a) a (3) o adran 3 o Ddeddf 2006, ar y cyd ag erthygl 148 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007, wedi ei gwneud yn ofynnol i’r Senedd gael ei diddymu ar 7 Ebrill 2021. Mae adran 2(1) yn datgymhwyso’r darpariaethau hyn. Yn lle hynny, mae adran 3 o’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ar gyfer diddymu’r Senedd cyn etholiad 2021.
10.
Mae is-adrannau (2)(b) a (4) o adran 3 o Ddeddf 2006, fel y’i diwygiwyd gan adran 36(1) o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (“Deddf 2020”), yn darparu i gyfarfod cyntaf y Senedd ar ôl etholiad cyffredinol arferol gael ei gynnal 14 o ddiwrnodau ar ôl diwrnod y pôl. Mae’r darpariaethau hyn wedi eu datgymhwyso gan adran 2(1) o’r Ddeddf ac mae adran 5 yn gwneud darpariaeth arall ynghylch dyddiad y cyfarfod cyntaf ar ôl etholiad 2021.
11.
Mae adran 3(1) o Ddeddf 2006, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddiwrnod y pôl ar gyfer yr etholiad cyffredinol arferol ddigwydd ar 6 Mai 2021, a dim ond ar y dyddiad hwnnw, yn cael effaith yn ddarostyngedig i adran 6 o’r Ddeddf sy’n galluogi i ddiwrnod y pôl gael ei symud os yw’n angenrheidiol ac yn briodol gwneud hynny am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.
12.
Mae adran 2(3) o’r Ddeddf yn darparu nad yw adran 4(2 (c) o Ddeddf 2006 (fel y’i diwygiwyd gan adran 36(2) o Ddeddf 2020) yn gymwys i etholiad 2021. Mae’r ddarpariaeth hon o Ddeddf 2006 yn caniatáu i broclamasiwn o dan y Sêl Gymreig ei gwneud yn ofynnol i’r Senedd gyfarfod o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl diwrnod y pôl os yw’r pwerau i amrywio dyddiad yr etholiad yn cael eu harfer o dan adran 4 o Ddeddf 2006. Yn achos etholiad 2021, os caiff dyddiad y pôl ei amrywio o dan adran 4 o Ddeddf 2006, mae adran 5 o’r Ddeddf hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Senedd gyfarfod 21 o ddiwrnodau ar ôl diwrnod y pôl.
13.
Mae adran 2(4) o’r Ddeddf yn darparu bod adran 10 o Ddeddf 2006, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch is-etholiadau’r Senedd, yn cael effaith yn ddarostyngedig i adran 7 o’r Ddeddf. Mae adran 7 yn caniatáu i ddyddiad y pôl ar gyfer is-etholiadau gael ei bennu y tu hwnt i’r dyddiad y darperir ar ei gyfer yn adran 10(5) a (6) o Ddeddf 2006.
2