Mae'r nodiadau hyn yn cyfeirio at Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 (dsc 2)
a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 16 Mawrth 2021
Adran 3 – Diddymu’r Senedd gyfredol
14.
Effaith yr adran hon yw, os cynhelir etholiad cyffredinol arferol y Senedd ar 6 Mai 2021, y bydd y Senedd yn cael ei diddymu ar 29 Ebrill, cyfnod o 7 niwrnod calendr cyn diwrnod y pôl. Fodd bynnag, os yw’r Llywydd yn arfer y pŵer a roddir gan adran 6 o’r Ddeddf i ohirio diwrnod y pôl ar gyfer yr etholiad; neu os yw Ei Mawrhydi yn diddymu’r Senedd cyn y dyddiad hwnnw drwy broclamasiwn o dan adran 4(2) o Ddeddf 2006 mae’r Senedd yn cael ei diddymu 7 niwrnod cyn y diwrnod y mae’r pôl i’w gynnal.
15.
Os yw’r Llywydd yn arfer y pŵer yn adran 6 ar fwy nag un achlysur ac yn gohirio diwrnod y pôl ymhellach, bydd y ddarpariaeth yn sicrhau bod y Senedd yn cael ei diddymu 7 niwrnod calendr cyn y dyddiad a bennir ar gyfer y pôl, pryd bynnag y bo hynny.
Adran 4 – Canllawiau ar arfer swyddogaethau yn y cyfnod cyn yr etholiad
16.
Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Prif Weinidog gyhoeddi canllawiau ynghylch arfer swyddogaethau’r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol yn ystod y cyfnod yn union cyn etholiad 2021.
Adran 5 – Dyddiad y cyfarfod cyntaf ar ôl etholiad 2021
17.
Mae’r adran hon yn darparu bod rhaid i’r Senedd gyfarfod o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau yn union ar ôl diwrnod etholiad 2021.
18.
Mae’r ddarpariaeth yn hwy nag y darperir ar ei gyfer ar hyn o bryd yn Neddf 2006 (14 o ddiwrnodau). Diben yr estyniad yw darparu rhywfaint o hyblygrwydd a darparu ar gyfer oedi posibl wrth gyfrif pleidleisiau a chadarnhau canlyniadau oherwydd mesurau’r coronafeirws megis cadw pellter corfforol a rheolau iechyd cyhoeddus eraill a all fod mewn grym o hyd ar adeg yr etholiad.
Adran 6 – Pŵer i ohirio etholiad 2021 am hyd at 6 mis
19.
Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i’r Llywydd i ohirio etholiad 2021 a phennu dyddiad newydd (is-adran (3)).
20.
Ni chaiff y Llywydd bennu dyddiad newydd ar gyfer yr etholiad ond os yw’r Prif Weinidog yn gwneud cynnig i’r Llywydd bod etholiad 2021 yn cael ei ohirio (isadran (1)). Ni chaiff y Prif Weinidog wneud y cynnig hwnnw ond os yw’r Prif Weinidog yn ystyried bod y gohirio yn angenrheidiol neu’n briodol am resymau sy’n ymwneud â’r coronafeirws. A chyn gwneud cynnig, rhaid i’r Prif Weinidog ymgynghori â Phrif Swyddog Meddygol Cymru.
21.
Ni chaiff y Llywydd bennu diwrnod ar gyfer cynnal y pôl ond—
- os yw’r Senedd yn cymeradwyo’r diwrnod sydd i’w bennu drwy bleidlais drwy benderfyniad sy’n cael ei basio gan fwyafrif o ddwy ran o dair o gyfanswm nifer seddi’r Senedd;
- os nad yw’r Senedd eisoes wedi ei diddymu.
22.
Nid yw adran 6 o’r Ddeddf yn cyfyngu ar bŵer y Llywydd i amrywio dyddiad y pôl ar gyfer etholiad cyffredinol arferol a nodir yn adran 4 o Ddeddf 2006.
3