Jump to content

Page:Explanatory Notes - Welsh Elections (Coronavirus) Act 2021 (ASC 2021-2 qp).pdf/8

From Wikisource
This page has been proofread, but needs to be validated.

Mae'r nodiadau hyn yn cyfeirio at Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 (dsc 2)
a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 16 Mawrth 2021

23.
Caniateir i’r pwerau yn yr adran gael eu harfer fwy nag unwaith, ond ni chaiff diwrnod a bennir o dan yr adran hon fod yn hwyrach na 5 Tachwedd 2021.

Adran 7 – Pŵer i ddarparu ar gyfer diwrnodau pleidleisio ychwanegol

24.
Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n caniatáu i bleidleisio ar gyfer etholiad 2021 ddigwydd ar ddiwrnodau penodedig, yn ychwanegol at y diwrnod y bwriedir i’r pôl ar gyfer yr etholiad ddigwydd. Ond ni chaniateir diwrnodau pleidleisio ychwanegol ar gyfer etholiad y Senedd os yw diwrnod y pôl ar gyfer etholiad y Senedd 2021 ar yr un diwrnod â’r pôl ar gyfer etholiad comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru.

Adran 8 – Pŵer pellach i amrywio dyddiad etholiad 2021

25.
Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i’r Llywydd i gynnig bod dyddiad y pôl ar gyfer yr etholiad yn 2021 a bennir o dan adran 6 o’r Ddeddf yn cael ei ddwyn ymlaen neu ei ohirio am hyd at fis. Nid oes rhaid arfer y pŵer hwn am resymau sy’n ymwneud â’r coronafeirws ac ni chaniateir ei arfer i gynnig dyddiad sydd ar ôl 5 Tachwedd 2021.
26.
Os yw’r Llywydd yn cynnig dyddiad, caiff Ei Mawrhydi drwy broclamasiwn o dan y Sêl Gymreig ddiddymu’r Senedd a’i gwneud yn ofynnol i’r pôl yn yr etholiad fynd rhagddo ar y diwrnod a gynigiwyd. Os caiff y pŵer o dan yr adran hon ei arfer, mae adran 5 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyfarfod cyntaf y Senedd ddigwydd o fewn 21 o ddiwrnodau i ddyddiad y pôl. Ni chaiff y Llywydd arfer y pŵer i gynnig amrywiad o ddyddiad etholiad y Senedd o dan adran 4 o Ddeddf 2006 ond os yw’r etholiad i’w gynnal ar 6 Mai 2021. Os caiff yr etholiad ei ohirio o dan adran 6 o’r Ddeddf, a bod y Llywydd yn dymuno cynnig amrywiad o ddyddiad yr etholiad a ohiriwyd, dim ond o dan yr adran hon y caniateir gwneud y cynnig ac amrywio dyddiad yr etholiad.

Adran 9 – Canllawiau ar ymgyrchu etholiadol

27.
Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch ymgyrchu etholiadol ar gyfer etholiad 2021, is-etholiadau’r Senedd cyn 6 Tachwedd 2021 ac is-etholiadau llywodraeth leol cyn 6 Tachwedd 2021 tra bo’r cyfyngiadau a osodir gan ddeddfiadau sy’n ymwneud â’r coronafeirws mewn lle.

Adran 10 – Pŵer i ohirio is-etholiadau’r Senedd

28.
Mae’r adran hon yn galluogi i is-etholiadau ar gyfer etholaethau’r Senedd gael eu gohirio y tu hwnt i’r cyfnod a ganiateir gan adran 10(5) a (6) o Ddeddf 2006. Ni chaniateir arfer y pŵer i ohirio is-etholiadau’r Senedd yn adran 66 o Ddeddf y Coronafeirws 2020 er mwyn pennu dyddiad ar ôl 6 Mai 2021. Bydd adran 10 o’r Ddeddf yn parhau i ganiatáu i seddi gwag sy’n codi ar ôl 6 Mai 2021 gael eu gohirio, ond nid i ddyddiadau ar ôl 5 Tachwedd 2021.
29.
Fel gydag adran 6 o’r Ddeddf hon ac adran 66 o Ddeddf y Coronafeirws 2020, caniateir defnyddio’r pŵer i ohirio is-etholiad i’r Senedd fwy nag unwaith.

4