Marwnad Dafydd ap Gwilym

Oddi ar Wicidestun

gan Madog Benfras

Da ar feirdd, dewr o ŵr fu,
Y dewisodd Duw Iesu.
Poen bu dwys, pen bedysawd,
Pan aerth â gwawr pennaeth gwawd,
Pensaer y wengaer wingerdd,
Pennaeth penceirddiaeth, paun cerdd,
Porthloedd gwawd, parthlwydd gwiwder,
Parlmant clod a moliant clêr,
Pensarff aer, pensaer y ffawd,
Penselwayw, paun inscilwawd,
Pergyn ei dudded purgoch,
Perllan cerdd, pârllinon coch,
Pentref cerdd, pen trofa cad,
Pantri cur, puntur cariad,
Pendig y glod penigamp,
Pennod a chompod a champ,
Penial cerdd dyfal dafawd,
Pen ar gwŷr, pannwr gwawd.
Gwiw fu ef, gwae fi a wn
O himych, gwych ni’m gweheirdd,
O hiraeth am bennaeth beirdd.
Maer y serch am aur a sôn,
Mawr annudd, clod morynion,
Mawlair cerdd, milwr a’i cant,
Melin y glod a’r moliant,
Mawr ar fy ngrudd, llowrudd llif,
Mesur deigr, mawr ŵr digruf,
Mal un arial Anerien,
Mold gwawd heal, am lid y gwin.


Ys gwag yr haf am Ddafydd,
Ysgwir gwawd, ysgwier gwŷdd.
Da athro beirdd, dieithrach
No dyn a fu, a Duw’n fach.
Och na bai hir, goetir ged,
Oes Dafydd, eos Dyfed.
Rhoes broses fal Taliesin,
Rhol o wawd, rhy hael o win.
Rhwyf o hoed, ni ryfu hen,
Rhaid yw, yn ôl rhwyd awen,
Adardy awdl, fardd gwawdlwydd,
Ado’r gerdd fal yn dir gŵydd,
O ganmol serch ugeinmerch
Yn dir sied y deryw serch.


Digrif oedd, deigr a foddes
Deutu fy ngrudd, neu’m lludd lles.
Dioer, serchocaf fu Dafydd,
Dyn o’r gwŷr dan oror gwŷdd.
Dadlwawd awdl, didlawd ydoedd,
Dioer o baun, dihaereb oedd.
Dwyn naf nod Duw nef a wnaeth,
Da lawrodd cerdd daelwriaeth,
Dafydd degan rhianedd,
Dyfna’ clod, daufinog gledd.


Dafydd, ei ddydd a ddeddyw,
Doctor clod, dictor a’i clyw,
Da hebog doeth, coeth o’m cof,
Deheubarth, nid â hebof.